Prif Sgwrs gan Tom Drayton

PRIF SGWRS
Friday 26 May 2023
9.45 – 10.30 (BST)
NoFit State Circus



'MAE'R CYFAN MOR DDIBWRPAS, AH, OND DYW E DDIM, NAG YW? MAE'N WIRIONEDDOL REAL A PHAN FYDDWCH CHI'N EI DEIMLO RYDYCH CHI WIR YN EI DEIMLO': THEATR A PHERFFORMIO O FEWN METAMODERNIAETH




Yn ôl y beirniad celf Jerry Saltz (2010), mae’r artist ôl-fodernaidd yn un sy’n datgan ‘Rwy’n gwybod y gall y gelfyddyd rwy’n ei chreu ymddangos yn wirion, hyd yn oed yn dwp, neu y gallai fod wedi’i gwneud o’r blaen, ond dyw hynny dim yn golygu nad yw hyn yn ddifrifol'. Yn y degawd ers hynny, mae tueddiadau mewn ymarfer perfformio cyfoes at bwyslais o’r newydd ar adrodd straeon, dilysrwydd, a chyswllt affeithiol rhwng actorion, cynulleidfaoedd a chymunedau yn arwydd o symud i ffwrdd oddi wrth themâu eironi ôl-fodern, datgysylltiad, a pastiche, ac at yr hyn mae ysgolheigion o fewn astudiaethau diwylliannol ehangach wedi'i ddiffinio fel y metamodern - strwythur diwylliannol o deimlad sy'n pendilio rhwng pegynau gwahanol; perfformiad sydd ar yr un pryd yn ddidwyll a choeglyd, yn eironig ac yn frwdfrydig, yn obeithiol ac yn anobeithiol.




BY TOM DRAYTON

Mae Tom Drayton yn Uwch Ddarlithydd mewn Actio, Perfformio a Chyfarwyddo ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain. Mae ymchwil Tom yn canolbwyntio ar ymarfer perfformio metamodern. Trwy hyn, mae ganddo ddiddordeb penodol yn y modd y mae profiad cenhedlaeth y mileniwm fel ‘plant ôl-foderniaeth’ wedi dylanwadu ar eu hymarfer theatraidd, yn ogystal ag ymchwilio i sut y gall ffurfiau newydd o strategaethau perfformio a ysgogir gan wleidyddiaeth feithrin llwybrau gwleidyddol newydd. Ar hyn o bryd mae Tom yn ysgrifennu'r llyfr cyntaf ar theatr fetamodern ac yn gyd-ymchwilydd ar brosiect Gaming Democracy: Participatory Performance Strategies for Countering Far-Right Politics mewn cydweithrediad â Choleg Theatr a Pherfformio Rose Bruford.