DATGANIAD CLOI
Beth allwn ni ei ddysgu o heddiw? A allwn ni gredu mewn ymdeimlad o gynnydd a luniwyd trwy'r cynulliad hwn? Cyn y gweithdy dogfennu cydweithredol, bydd Thom Hamer yn cloi’r sgyrsiau a’r perfformiadau gyda rhai sylwadau cloi, gan fyfyrio ar wersi’r diwrnod.

THOM HAMER
Mae Thom Hamer yn ymchwilydd doethurol amser llawn mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Southampton, a chaiff ei ariannu gan SWWDTP AHRC. Mae ei ymchwil yn gweithio ar hyd croestoriadau athroniaeth ddirfodol, astudiaethau llenyddol, ieithyddiaeth a seicoleg, ac yn canolbwyntio ar gwestiynau dirfodaeth ôl-eironig, gan ofyn i ba raddau y gall y syniad metamodern o ddidwylledd gynnig ymateb dilys i abswrdiaeth ein bodolaeth.