Syrcas ac Achwriaeth

SGWRS WEDI’I FFILMIO
26 Mai 2023
14.45 – 15.00 (BST)
NoFit State Circus



SYRCAS AC ACHWRIAETH

Mae sgwrs Pete yn myfyrio ar ei brofiad o gymhlethdod syrcas, trwy lens hanes personol ac achau ymarfer corfforedig. Mae’n adrodd hanes ei deulu, y teulu Yelding, a oedd unwaith yn un o deuluoedd syrcas amlycaf Gorllewin Ewrop, ac yn cysylltu ei linach Romani ei hun â llinach ei Ustad (Meistr Athro) cerddorol. Mae themâu ofn, arallrwydd, perthyn a chof yn blodeuo trwy'r naratif, sy'n cordeddu edafedd o hunaniaeth sy'n chwalu rhai o fythau mwy diweddar y Gorllewin am syrcas fel gwrthrych hermetig unigryw.






PETE YELDING

Mae Pete Yelding yn chwarae'r cello, y sitar ac yn lleisydd. Daw o deulu teithiol o bobl y Sioeau. Er mai ei dad-cu oedd yr Yelding olaf i fyw bywyd Dyn Sioe teithiol, mae Pete yn parhau â chrefft berfformio'r teulu i'w 7fed cenhedlaeth o leiaf. Yn ystod ei yrfa broffesiynol mae Pete wedi cydweithio gydag artistiaid fel Zinzi Minott, Mammal Hands, Iqbal Khan, Talvin Singh, Sura Susso, Jonathan Mayer, Shagufta Iqbal, & Amadou Diagne; a sefydliadau fel y Royal Shakespeare Company, Bristol Old Vic, Cape Farewell & Birmingham REP. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer PhD, a ariennir gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol De Orllewin Lloegr a Chymru, ym Mhrifysgolion Bath Spa a Chaerwysg. Mae ei ymchwil yn archwilio’r corff fel archif gerddorol ac yn olrhain gwybodaeth gorfforedig llinach gerddorol ei athro, Ustad Irfan Muhammad Khan, trwy drosiadau rhwng sarod, sitar a cello.