Cyflwyniad i gyd-greu Planhigion-Dynol

GWEITHDY PERFFORMIO
26 Mai 2023
11.30 – 13.00 (BST)
NoFit State Circus



CYFLWYNIAD I GYD-GREU PLANHIGION-DYNOL

Nod prosiect Jyglo Planhigion yw dod o hyd i ddulliau i gyd-greu deunydd jyglo gyda phlanhigion, yn y gobaith o drawsnewid perthnasoedd dynol-planhigion mewn gofod cyhoeddus trwy ymarfer jyglo. Mae Jyglo Planhigion yn cydnabod ein cyfosodiadau gyda phlanhigion ac yn eu trin fel asiantau yn y disgwrs cyhoeddus, yn gyd-greawdwyr gofod a phartneriaid yn y syrcas, yn hytrach na fel gwrthrychau byw yn y tirlun.



Yn y gweithdy 1 awr 30 munud hwn bydd arddangosiad o ddeunydd a ddyfeisiwyd trwy'r dull jyglo planhigion ac yna ymarferion ymarferol a mannau cychwyn ar gyfer dechrau cydweithio â phartner sy'n blanhigyn. Does dim angen i chi wybod sut i jyglo i gymryd rhan yn y gweithdy. Byddwn yn canolbwyntio ar wahanol ffyrdd o ddod i adnabod a dechrau sgwrs gyda phartner sy'n blanhigyn, a gallwch ddefnyddio gwahanol dechnegau creu (ysgrifennu, lluniadu, symud).




VALENTINA SOLARI

Artist syrcas yw Valentina Solari sy'n arbenigo mewn jyglo, trapîs statig, a jyglo trapîs (cyfuniad o'r ddau). Ar ôl cwblhau BA yn Circomedia yn 2018, mae ei gwaith wedi archwilio dulliau ar gyfer creu enghreifftiau o gydweithio rhwng artist, cynulleidfa, a chyfranogwyr nad ydynt yn ddynol, yn defnyddio syrcas. Gan ddilyn y diddordebau hyn, astudiodd MA mewn Perfformio Gofod Cyhoeddus ym Mhrifysgol Fontys, gan ganolbwyntio ei hymchwil ar ddatblygu Jyglo Planhigion, agwedd newydd at dechneg jyglo sy’n ceisio cyd-greu gyda phlanhigion. Mae Valentina hefyd yn gweithio fel athrawes syrcas yn Circomedia ac yn berfformiwr llawrydd.