Am y syrcas

The Metamodern Circus
︎




Cyrhaeddodd y syrcas uchafbwynt cydnabyddiaeth gyhoeddus yng nghyfnod modernaidd yr ugeinfed ganrif. Ers y 1990au, mae arbrofion mewn ‘syrcas gyfoes’ wedi cofleidio’r ôl-fodern. Mae rhai damcaniaethwyr diwylliannol bellach yn disgrifio ein cyfnod yn ‘fetamodern’, gan ddwyn ynghyd elfennau o feddwl a theimlad o ysbryd yr oes flaenorol. Mae agweddau pwysig ar fetamoderniaeth yn cynnwys 'post-irony', ailwerthfawrogi crefft, ail-greu dilysrwydd ac ymdeimlad newydd o ysbrydolrwydd (Van den Akker, Gibbons a Vermeulen 2017).

Wedi’n hysbrydoli gan y diriogaeth gymharol estron hon, rydym yn cyflwyno: Y Syrcas Metamodern. Mae’r ŵyl hon yn dod ag ysgolheigion o ffenomenau metamodern ac ymarferwyr syrcas at ei gilydd i archwilio sut mae’r ddau safbwynt yn croestorri. Rydyn ni’n gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, diwylliant ac athroniaeth i ymuno â ni i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r oes rydyn ni’n byw ynddo. Bydd y diwrnod yn cynnwys prif gyflwyniadau, perfformiad a thrafodaethau bord gron, yn ogystal â gweithgareddau hwyliog i'n cadw yn ysbryd y digwyddiad. Mae rhan olaf y diwrnod wedi’i neilltuo i weithdy i ddatblygu dogfen gydweithredol sy’n adlewyrchu ar y dysgu a’r cwestiynau o’r diwrnod, a fydd yn cael ei chyhoeddi a’i rhannu â’n cymunedau ehangach o ymarfer ac ysgolheictod.









Ymunwch â'r sgwrs

Cofrestrwch ar gyfer y tair sesiwn, neu dewiswch y rhai sy’n addas i chi!

Pryd? Dydd Gwener 26 Mai 2023.

Ble? Syrcas Gymunedol NoFit State, Caerdydd (DU).

Croeso i bawb! Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Saesneg.



Wedi'i ariannu gan Raglen Hyfforddiant Doethurol AHRC De Orllewin Lloegr a Chymru, Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC, ac Academi Ddoethurol Prifysgol Caerdydd. Mewn partneriaeth â The Circus Diaries.


Dylunio graffeg gan Anke Verbeek & Thom Hamer






PARTNERIAID: